Siarad yn Gyhoeddus:Gallwch ofyn am gael siarad mewn cyfarfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu'r Pwyllgor Archwilio a Chraffu am unrhyw eitem sydd ar yr agenda. Gallwch ddarllen mwy am y cynllun hwn a lawrlwytho ffurflen i gofrestru er mwyn gwneud cais yma: Cynllun Siarad yn Gyhoeddus
Mae’r broses ar gyfer siarad yn y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy ychydig yn wahanol, felly darllenwch yr wybodaeth yn ofalus neu holwch swyddog perthnasol y pwyllgor.Craffu: Os hoffech weithio gyda’r Aelodau a’r Swyddogion ar Banel Craffu sy’n edrych ar wahanol agweddau ar ein gwaith, edrychwch ar ein Tudalen Graffu
Yma gallwch weld pa gyfarfodydd sydd wedi cael eu trefnu, clicio ar y dyddiad er mwyn darllen a lawrlwytho agendâu ar gyfer y cyfarfod, a chofrestru i dderbyn hysbysiadau yngl?n â chyfarfodydd y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw.
Yn y rhan hon rydym yn egluro beth mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei wneud, a sut mae’n gwneud penderfyniadau drwy ei bwyllgorau. Gallwch weld gwybodaeth hefyd am y Gweithgorau Aelodau a Swyddogion. Cyfarfodydd anffurfiol yw’r rhain. Gwneud argymhellion i’r Awdurdod yw eu gwaith, nid gwneud penderfyniadau, felly nid ydynt yn gyfarfodydd cyhoeddus. Gallwch hefyd ddysgu am yr Aelodau Hyrwyddwyr ar gyfer meysydd gwaith allweddol.
Mae pob penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod a’i bwyllgorau er Gorffennaf 2014 wedi’i gynnwys yma, a gallwch chwilio yn ôl dyddiad, pwyllgor neu bwnc. Mae yna hefyd ddolenni cyswllt sy’n arwain at eitemau a phapurau gwreiddiol y pwyllgor.