Pwrpas y pwyllgor
Weithiau bydd y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy’n penderfynu bod angen ymweld â safle er mwyn edrych yn fanylach ar gais cynllunio cyn gwneud penderfyniad. Bydd yr ymweliad safle hwn yn cael ei gynnal ar fore’r cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu o’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn y cyfarfod yn y prynhawn. Nid yw’r ymweliadau safle’n agored i’r cyhoedd ond mae gan y Cadeirydd hawl i wahodd perchennog y tir neu ei asiant i ddod yno i egluro’r cais.
Swyddog cefnogi: Dani French.