Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 18 o aelodau sydd wedi’u penodi fel a ganlyn gan yr awdurdodau sy’n rhan o’r Parc a chan Lywodraeth Cymru:
Cyngor Sir Powys |
6 aelod |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
1 aelod |
Cyngor Sir Fynwy |
1 aelod |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
1 aelod |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
1 aelod |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
1 aelod |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
1 aelod |
Llywodraeth Cymru |
6 aelod |
Mae’r Awdurdod yn gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â’r canlynol:
· Polisi a strategaeth (gan gynnwys Cynlluniau Datblygu)
· Adnoddau ariannol
· Faint o ddefnydd a wneir o gronfeydd wrth gefn
· Strwythur pwyllgorau
· Penodi Prif Swyddogion
· Penodi Aelodau i gyrff allanol
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyfarfod bob dau fis ac mae pob cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, oni bai eu bod yn trafod materion sydd wedi’u heithrio dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae gennym gynllun siarad yn gyhoeddus er mwyn i’r cyhoedd allu rhoi anerchiad i’r Awdurdod yngl?n ag unrhyw eitem sydd ar yr agenda. Gweler yr adran llyfrgell ar y safle hwn am fanylion am y cynllun siarad yn gyhoeddus.
Gallwch wylio pob un o’n cyfarfodydd yn fyw fel gweddarllediadau neu fel archif.
Swyddog cefnogi: Gwasanaethau Democrataidd.
Cyfeiriad Postio:
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Brecon
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 624437
Gwefan: http://www.beacons-npa.gov.uk