• Calendr cyfarfodydd
  • Pwyllgorau
  • Penderfyniadau
  • Llyfrgell
  • Cyfarfodydd
  • Cyrff allanol
  • Dogfennau Chwilio
  • Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
  • Eich cynghorwyr
  • Beth sy'n newydd
  • Manylion Pwyllgor

    Pwyllgor Cynllunio

    • Pori trwy'r cyfarfodydd a'r agendâu ar gyfer y pwyllgor hwn
    • Gweld manylion cyswllt aelodau'r pwyllgor hwn
    • Gweld ystadegau presenoldeb
    • Ystadegau’r cyfarfod
    • Datganiadau o fuddiant
    • Tanysgrifio i ddiweddariadau RSS

    Diben y Pwyllgor

    Pwrpas y pwyllgor

    Mae pob un o’r 21 aelod sydd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy. Mae’n rhaid i’r aelodau gael hyfforddiant mewn materion cynllunio cyn y gallant bleidleisio yn y pwyllgor. Yn 2006 disodlodd y pwyllgor hwn y Pwyllgor Rheoli Datblygu a’r Pwyllgor Mynediad a Hawliau Tramwy blaenorol.

     

    Mae’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy’n cyfarfod bob 6 wythnos ac mae’n gyfrifol am:

     

    ·        Wneud penderfyniadau yngl?n â cheisiadau cynllunio.

    ·        Gorfodi rheolaeth gynllunio.

    ·        Gwneud argymhellion i’r Awdurdod yngl?n â’r Cynllun Datblygu.

    ·        Materion polisi sy’n ymwneud â mwynau a gwastraff.

    ·        Gwneud penderfyniadau i wyro, lledu, creu a diddymu llwybrau cyhoeddus.

    ·        Gwneud argymhellion i’r Awdurdod yngl?n â pholisi mynediad a hawliau tramwy.

    ·        Gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â newidiadau i’r Map Diffiniol hawliau tramwy.

    ·        Gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

    ·        Gwneud penderfyniadau dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

     

    Mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd hyn (yn amodol ar unrhyw wybodaeth sydd wedi’i heithrio dan Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Eithrio rhag datgelu dogfennau), a gallwch wneud cais i gael siarad dan Gynllun Siarad yn Gyhoeddus yr Awdurdod

     

    Gall aelodau wneud cais i alw penderfyniad i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy drwy gwblhau “Ffurflen Gais i Alw Penderfyniad i Mewn“.  Dylai unrhyw gais i alw penderfyniad i mewn gael ei wneud cyn pen 15 niwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi’r rhestr wythnosol.

     

    Gallwch weld pob un o’r cyfarfodydd drwy we-ddarllediad byw neu drwy archif: http://www.breconbeacons.public-i.tv/core/

     

    Aelodaeth

    • Mr Julian Stedman  (Chair) 
    • Cllr Edwin Roderick  (Deputy Chair) 
    • Cllr Iain McIntosh   
    • Cllr William Powell   
    • Cllr Huw Williams   
    • Cllr Peter Baldwin   
    • Cllr Jeremy Davies   
    • Cllr Simon Howarth   
    • Cllr Scott Emanuel   
    • Mr Craig Stephenson   
    • Professor John Hunt   
    • Dr Liz Bickerton   

    Gwybodaeth gyswllt

    Swyddog cefnogi: Jane Pashley.

    Cyfeiriad Postio:
    Plas y Ffynnon
    Cambrian Way
    Brecon
    Powys
    LD3 7HP

    Ffôn: 01874 624437

    E-bost: planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk

    Gwefan: http://www.beacons-npa.gov.uk