Pwrpas y
pwyllgor
Mae’r pwyllgor yn cynnwys tri aelod o Awdurdod y Parc
Cenedlaethol a thri aelod annibynnol, sy’n cael eu recriwtio
drwy hysbysebu a chynnal cyfweliadau. Mae’n cyfarfod yn
ôl y galw (ond o leiaf unwaith y flwyddyn) ac mae’n
gyfrifol am y canlynol:
-
Cyflawni swyddogaethau
cyfreithiol a roddwyd i’r Pwyllgor drwy neu dan
statud.
-
Cynghori Awdurdod y Parc
Cenedlaethol yngl?n
â’r
gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a gyflwynir i’r Ombwdsmon.
-
Adolygu’r rhan y
mae’r Awdurdod yn ei chwarae mewn cyrff allanol.
-
Rhoi cyngor
yngl?n â sut i
sicrhau a hyrwyddo safonau ymddygiad uchel ym musnes yr
Awdurdod.
-
Cynghori
yngl?n
â’r
polisi chwythu’r
chwiban.
-
Derbyn adroddiadau gan y
Swyddog Monitro.
Mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd hyn
(yn amodol ar unrhyw wybodaeth sydd wedi’i heithrio dan
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Eithrio rhag
datgelu dogfennau) a gallwch hefyd wneud cais i gael
siarad dan Gynllun Siarad yn
Gyhoeddus yr Awdurdod