• Calendr cyfarfodydd
  • Pwyllgorau
  • Penderfyniadau
  • Llyfrgell
  • Cyfarfodydd
  • Cyrff allanol
  • Dogfennau Chwilio
  • Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
  • Eich cynghorwyr
  • Beth sy'n newydd
  • Agenda a Chofnodion

    CCA, Awdurdod y Parc Cenedlaethol - Dydd Gwener, 20fed Mai, 2022 9.00 yb

    • Manylion Presenoldeb
    • Blaenddalen Agenda PDF 123 KB
    • Pecyn adroddiadau'r agenda PDF 185 KB
    • Cofnodion wedi eu hargraffu PDF 127 KB

    Lleoliad: Virtual Teams Meeting. Gweld y cyfarwyddiadau

    Cyswllt: Democratic Services Team  01874 620 477

    Media

    Eitemau
    Rhif eitem

    46/21

    Gohebiaeth

    Er mwyn cael ac ystyried y Rhestr Ohebiaeth sydd ynghlwm ac unrhyw argymhellion yn ei chylch (isod).

     

     

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 46/21

    Cofnodion:

    Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i'r cyfarfod

    Nodwydymddiheuriadau am absenoldeb.

     

    47/21

    Datgan buddiannau

    Er mwyn i’r aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau’n ymwneud â’r eitemau sydd ar yr agenda. Tynnir sylw’r aelodau at y ddalen sydd ynghlwm wrth y ddalen presenoldeb ac at yr angen i gofnodi eu datganiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan nodi natur y buddiant.

     

    Os byddwch fel aelod wedi datgan buddiant mewn eitem, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’r Cadeirydd pan fyddwch yn gadael yr ystafell, er mwyn i hynny gael ei gofnodi yn y cofnodion.

     

     

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 47/21

    Cofnodion:

    Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan

     

    48/21

    Siarad yn gyhoeddus

    Er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd annerch y cyfarfod yn unol â Chynllun Siarad yn Gyhoeddus yr Awdurdod.

     

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 48/21

    Cofnodion:

    Nid oedd unrhyw geisiadau i siarad wedi dod i law.

    Gan fod Uwch Dîm Rheoli newydd yn ei le ac y byddai yna aelodau newydd ar ôl yr etholiad, nododd y Cadeirydd fod yr Awdurdod yn agored ac yn annog y cyhoedd i ymwneud ag ef. Dylai unrhyw un a hoffai siarad yn y cyfarfodydd sydd ar ddod anfon cais i’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd.

     

    49/21

    Cyhoeddiadau’r Prif Weithredwr

    • Y cefndir i eitem 49/21
    • Y penderfyniad ar gyfer eitem 49/21

    Er mwyn cael adroddiad gan y Prif Weithredwr am gyfarfodydd a fynychwyd ac am gynnydd a wnaed yng nghyswllt busnes yr Awdurdod ers cyfarfod diwethaf yr Awdurdod, a chyflwyno’r Bwrdd Gweithredol sydd newydd gael ei benodi.

     

     

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 49/21

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Prif Weithredwr Fwrdd Gweithredol newydd yr Awdurdod, sef Simone Lowthe-Thomas (Cyfarwyddwr Adfer Natur a Newid Hinsawdd), Gareth Jones (Cyfarwyddwr Cynllunio a Lle) a Rotimi Akinsiku (Rheolwr Rhaglenni a Phortffolios).

    Cydnabu’r gwaith mawr a oedd i’w wneud a phwysigrwydd cael yr aelodau a’r swyddogion i weithio fel un tîm. Byddai cael yr Uwch Dîm Rheoli cywir yn ei le yn sicrhau bod hynny’n bosibl.

    Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ei phrif ymrwymiadau ac am gyllid newydd a oedd wedi dod ar gael.

    Nododd y Cadeirydd fod y cyfnod hwn yn un cyffrous i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, bod yr aelodau’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd Gweithredol newydd, ac y byddent yn disgwyl iddynt yrru’r Parc Cenedlaethol yn ei flaen.

     

    50/21

    Adroddiad ar y Cytundeb Dirprwyo rhwng Awdurdodau pdf icon PDF 58 KB

    • Y cefndir i eitem 50/21

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 50/21

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cytundeb dirprwyo rhwng awdurdodau, a fyddai’n weithredol rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ar gyfer rôl Swyddog Adran 151.

    Gofynnwyd i’r aelodau benodi Swyddog Adran 151 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Swyddog Adran 151 interim ac yn Ddirprwy Swyddog Adran 151 wedyn ar gyfer yr Awdurdod, a fyddai’n cael ei gofnodi gan gytundeb rhwng y ddau Barc Cenedlaethol.

    Wrth ymateb i ymholiad gan un o’r aelodau, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai fod yn ofynnol i’r Swyddog Adran 151 interim baratoi datganiad drafft o gyfrifon.

    PENDERFYNWYD:   

    1. Penodi Swyddog Adran 151 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

    a) yn Swyddog Adran 151 interim; a

    b) yn Ddirprwy Swyddog Adran 151 pan fyddai’r Awdurdod yn penodi deiliad newydd i’r swydd;

    2. Awdurdodi’r Prif Weithredwr, a fydd yn ymgynghori â’r Swyddog Monitro, i setlo a chwblhau’r cytundeb ynghylch Swyddog Adran 151 gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.