• Calendr cyfarfodydd
  • Pwyllgorau
  • Penderfyniadau
  • Llyfrgell
  • Cyfarfodydd
  • Cyrff allanol
  • Dogfennau Chwilio
  • Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
  • Eich cynghorwyr
  • Beth sy'n newydd
  • Agenda a Chofnodion

    AGM, Awdurdod y Parc Cenedlaethol - Dydd Gwener, 1af Gorffennaf, 2022 10.00 yb

    • Manylion Presenoldeb
    • Blaenddalen Agenda PDF 125 KB
    • Pecyn adroddiadau'r agenda PDF 464 KB
    • Cofnodion wedi eu hargraffu PDF 317 KB

    Lleoliad: Virtual Meeting. Gweld y cyfarwyddiadau

    Cyswllt: Democratic Services Team 

    Media

    Eitemau
    Rhif eitem

    51/21

    Penodi Cadeirydd yr Awdurdod

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 51/21

    Cofnodion:

    Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r aelodau a’r swyddogion, a rhoddodd ddiweddariad cryno am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr oedd wedi’i fynychu. Nododd iddi fod yn flwyddyn heriol i’r Awdurdod ac na fyddai’n cynnig ei enw ar gyfer rôl y Cadeirydd eleni, ond ei fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd a’i fod wedi gwerthfawrogi’r profiad.

    Tynnodd y Swyddog Monitro sylw’r aelodau at y broses hunanenwebu a fyddai’n cael ei defnyddio drwy gydol y cyfarfod, yn unol â’r Rheolau Sefydlog.

    Nododd yr aelodau fod y Canon Aled Edwards wedi’i benodi yn Gadeirydd yr Awdurdod nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal. Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u ffydd ynddo. Tynnodd sylw at waith caled y Cynghorydd Gareth Ratcliffe fel Cadeirydd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

    PENDERFYNWYD:   Nodi bod y Canon Aled Edwards wedi’i benodi yn Gadeirydd yr Awdurdod nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal.

     

    52/21

    Penodi Is-gadeirydd yr Awdurdod

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 52/21

    Cofnodion:

    Nododd yr aelodau fod y Cynghorydd Gareth Ratcliffe wedi’i benodi yn Is-gadeirydd yr Awdurdod nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal. Cafodd yr Is-gadeirydd ei ganmol gan yr aelodau am ei gyfnod fel Cadeirydd yr Awdurdod.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod y Cynghorydd Gareth Ratcliffe wedi’i benodi yn Is-gadeirydd yr Awdurdod nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal.

     

    53/21

    Penodi aelod llywyddol os yw'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn absennol pdf icon PDF 27 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 53/21

    Cofnodion:

    Dywedodd y Swyddog Monitro y gallai fod yn anodd penodi Aelod Llywyddol oherwydd nad oedd yr aelodau’n ymwybodol eto o’u hymrwymiadau i bwyllgorau eraill. Mater i’r aelodau fyddai penderfynu a oedd modd iddynt ymdrin â’r eitem hon yn awr neu a ddylid gohirio’r eitem nes y bydd cyfarfod llawn nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal ar 29 Gorffennaf, yn unol ag argymhelliad y Swyddog Monitro.

    PENDERFYNWYD:    Gohirio penodi Aelod Llywyddol os yw’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn absennol, nes y bydd cyfarfod nesaf yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cael ei gynnal.

     

    54/21

    Ymddiheuriadau am Absenoldeb

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 54/21

    Cofnodion:

    Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peter Baldwin a’r Cynghorydd Iain McIntosh gan y byddai’n rhaid i’r ddau ohonynt adael y cyfarfod yn gynnar.

     

    55/21

    Datganiadau o Ddiddordeb

    Derbynunrhyw ddatganiadau diddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Tynnir sylw’r aelodau at y daflen sydd ynghlwm wrth y daflen bresenoldeb a’r angen i gofnodi eu datganiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig gan nodi natur y buddiant.

     

    Osyw Aelodau wedi datgan buddiant mewn eitem sicrhewch eich bod yn hysbysu’r Cadeirydd pan fyddwch yn gadael yr ystafell, fel y gellir cofnodi hyn yn y cofnodion.

     

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 55/21

    Cofnodion:

    Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan

     

    56/21

    Cofnodion pdf icon PDF 44 KB

    Cymeradwyo'rcofnodion canlynol ac awdurdodi'r Cadeirydd i'w harwyddo fel cofnod cywir:

     

    Awdurdod y Parc Cenedlaethol 25 Mawrth 2022

    CCE 20 Mai 2022

    Dogfennau ychwanegol:

    • Minutes , 25/03/2022 National Park Authority , eitem 56/21 pdf icon PDF 73 KB
    • Gweddarllediad ar gyfer 56/21

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo’r cofnodion canlynol ac awdurdodi’r Cadeirydd i’w llofnodi fel cofnod cywir:

                                        Awdurdod Parc Cenedlaethol – 25 Mawrth 2022

                                        Awdurdod Parc Cenedlaethol (CCA) – 20 Mai 2022

     

    57/21

    Siarad yn gyhoeddus

    Rhoicyfle i aelodau'r cyhoedd annerch y cyfarfod yn unol â Chynllun Siarad Cyhoeddus yr Awdurdod.

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 57/21

    Cofnodion:

    Nidoedd unrhyw geisiadau i siarad wedi dod i law.

     

    58/21

    Gohebiaeth

    Derbyn ac ystyried y Rhestr Gohebu sydd ynghlwm ac unrhyw argymhellion arni (isod).

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 58/21

    Cofnodion:

    Nododd y Cynghorydd Baldwin a’r Cynghorydd McIntosh y gallai fod yn rhaid iddynt adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill. Darparodd y ddau ohonynt wybodaeth am y penodiadau yr hoffent gael eu hystyried ar eu cyfer pe baent yn gadael cyn bod yr enwebiadau’n cael eu cyflwyno.

     

    59/21

    Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

    Derbynadroddiad llafar ar gyfarfodydd a digwyddiadau a fynychwyd gan y Cadeirydd ers cyfarfod diwethaf yr Awdurdod.

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 59/21

    60/21

    Cyhoeddiadau'r Prif Weithredwr

    Derbynadroddiad gan y Prif Weithredwr ar y cyfarfodydd a fynychwyd a'r cynnydd a wnaed ar fusnes yr Awdurdod ers cyfarfod diwethaf yr Awdurdod.

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 60/21

    Cofnodion:

    Nododd y Prif Weithredwr mai’r Awdurdod fyddai Cadeirydd Parciau Cenedlaethol Cymru eleni ac y byddai Cadeirydd yr Awdurdod yn awr yn Gadeirydd Parciau Cenedlaethol Cymru hefyd.

    Bu’n trafod blaenoriaethau ar gyfer y misoedd sydd i ddod, gan ddweud mai’r prif ffocws fyddai sefydlu’r Tîm Gweithredol newydd, gwneud cynnydd o safbwynt cynllun gweithredu Archwilio Cymru, ac ystyried yn fanwl pa fath o Awdurdod yr ydym am fod wrth symud ymlaen.

    Wrth edrych i’r dyfodol, cafodd darnau allweddol o waith eu nodi – Bannau’r Dyfodol (Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol), argymhellion Archwilio Cymru a oedd yn weddill, penodi Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro, a’r diweddariad am Dwristiaeth Gynaliadwy.

    Nodwyd bod yr Awdurdod mewn sefyllfa dda o safbwynt ariannol ond y byddai angen monitro materion ariannol yn briodol o hyd, o ystyried y sefyllfa y mae’r Awdurdod ynddi.

    Yn olaf, pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau llif da o wybodaeth ar gyfer yr aelodau, a’i hymrwymiad i dryloywder.

     

    61/21

    Aelodaeth yr Awdurdod pdf icon PDF 25 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 61/21

    Cofnodion:

    Cafodd aelodaeth yr Awdurdod ei nodi er gwybodaeth gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

     

    62/21

    Penodi aelodau i Bwyllgorau a Fforymau pdf icon PDF 40 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 62/21

    Cofnodion:

    Soniodd y Swyddog Monitro am yr adroddiad a oedd ynghlwm, gan nodi na fyddai’r lleoedd gwag ar gyfer aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu llenwi yn y tymor byr ac y byddai hynny’n cael effaith o ran sicrhau cworwm.

    PENDERFYNWYD:    Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddirprwyo p?er i Gyfreithiwr a Swyddog Monitro yr Awdurdod ddiwygio’r Rheolau Sefydlog a’r Cynllun Dirprwyo fel eu bod yn adlewyrchu’r diwygiadau gofynnol, ac yn cytuno i ddirprwyo p?er iddynt wneud unrhyw newidiadau canlyniadol.

     

    63/21

    Y Pwyllgor Cynllunio pdf icon PDF 18 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 63/21

    Cofnodion:

    Gofynnodd y Cadeirydd am hunanenwebiadau o’r llawr ar gyfer aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio.

    PENDERFYNWYD:    Penodi’r aelodau canlynol i’r Pwyllgor Cynllunio nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

    Y Cynghorydd Jeremy Davies, Y Cynghorydd  Edwin Roderick, Mr Julian Stedman, Y Cynghorydd  Peter Baldwin, Y Cynghorydd  William Powell, Y Cynghorydd  Iain McIntosh, Y Cynghorydd  Edward Jones, Y Cynghorydd  Huw Williams, Y Cynghorydd  Simon Howarth, Y Cynghorydd  Scott Emanuel

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod Mr Julian Stedman wedi’i benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod y Cynghorydd Edwin Roderick wedi’i benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

     

    64/21

    Y Pwyllgor Archwilio a Risg pdf icon PDF 19 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 64/21

    Cofnodion:

    Gofynnodd y Cadeirydd am hunanenwebiadau o’r llawr ar gyfer aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Risg. Cafodd yr aelodau canlynol eu penodi i’r Pwyllgor Archwilio a Risg:Y Cynghorydd William Powell, Y Cynghorydd Edwin Roderick, Y Cynghorydd Liam Cowles, Y Cynghorydd Jeremy Davies

    Ar ôl i aelodau gael eu henwebu i’r pwyllgorau eraill, nodwyd nad oedd y Cynghorydd Roderick a’r Cynghorydd Davies yn gymwys i’w penodi dan y Cynllun Dirprwyo presennol (gan fod y Cynghorydd Roderick yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a bod y Cynghorydd Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad).

    PENDERFYNWYD:    Penodi’r aelodau canlynol i’r Pwyllgor Archwilio a Risg nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

    Y Cynghorydd William Powell, Y Cynghorydd Liam Cowles, Y Cynghorydd Simon Howarth

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod y Cynghorydd Liam Cowles wedi’i benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod Y Cynghorydd William Powell wedi’i benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai angen ailystyried aelodaeth y pwyllgor hwn yng nghyfarfod nesaf yr Awdurdod, gan mai dim ond tri o’r chwe Aelod gofynnol a oedd wedi’u penodi.

     

    65/21

    Y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad pdf icon PDF 18 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 65/21

    Cofnodion:

    Gofynnodd y Cadeirydd am hunanenwebiadau o’r llawr ar gyfer aelodaeth y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad.

    PENDERFYNWYD:    Penodi’r aelodau canlynol i’r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

    Canon Aled Edwards, Y Cynghorydd Peter Baldwin, Y Cynghorydd  Huw

    Williams, Y Cynghorydd Simon Howarth.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod y Cynghorydd Gareth Ratcliffe wedi’i benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod Y Cynghorydd Jeremy Davies wedi’i benodi yn Gadeirydd yPwyllgor Cyllid a Pherfformiad nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

     

    66/21

    Y Pwyllgor safonau pdf icon PDF 9 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 66/21

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:    Penodi’r aelodau canlynol i’r Pwyllgor Safonau nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

    Mr Julian Stedman, Y Cynghorydd Jeremy Davies ac Y Cynghorydd  Scott

    Emanuel

    67/21

    Y Pwyllagor Gronfa Datblygu Cynaliadwy pdf icon PDF 19 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 67/21

    Cofnodion:

    Gofynnodd y Cadeirydd am hunanenwebiadau o’r llawr ar gyfer aelodaeth y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (GDC) Pwyllgor.

    PENDERFYNWYD:    Penodi’r aelodau canlynol i’r Pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

    Y Cynghorydd  Jeremy Davies, Y Cynghorydd  William Powell, Y Cynghorydd  Ed Jones, Y Cynghorydd  Edwin Roderick.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod y Cynghorydd Peter Baldwin wedi’i benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor GronfaDatblygu Cynaliadwy nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    PENDERFYNWYD:    Nodi bod Y Cynghorydd Iain McIntosh wedi’i benodi yn Gadeirydd yPwyllgor GronfaDatblygu Cynaliadwy nes y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal.

    Nododd yr aelodau na fyddai gan y pwyllgor gworwm, oherwydd nad oedd ganddo unrhyw aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru. Gan fod y p?er i wneud diwygiadau canlyniadol wedi’i ddirprwyo i’r Swyddog Monitro, rhoddwyd sicrwydd i’r aelodau na fyddai hynny’n broblem. Cynigiodd Mr Stedman ei enwebu ei hun fel yr aelod a benodir gan Lywodraeth Cymru, ond tynnodd ei enwebiad yn ôl oherwydd byddai’n golygu bod yn rhaid i aelod arall ymddiswyddo.

     

    68/21

    Corporate Joint Committees pdf icon PDF 34 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 68/21

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD: Penodi’r aelodau canlynol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

     Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth – Y Cynghorydd Gareth Ratcliffe

     Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin – Y Canon Aled Edwards

     Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain – Mr Julian Stedman

     

    69/21

    Penodi aelodau i gyrff allanol pdf icon PDF 20 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 69/21

    Cofnodion:

    Dywedodd yr Is-gadeirydd fod rhai o’r swyddi’n cael eu llenwi’n awtomatig gan swyddogion penodol pwyllgorau.

    PENDERFYNWYD: Penodi’r aelodau canlynol i’r cyrff allanol canlynol nes y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal:

     

    Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru

    Cadeirydd yr Awdurdod – Y Canon Aled Edwards

    Y Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth

    Y Cynghorydd Jeremy Davies

    Gr?p Mynediad Brycheiniog

    Y Cynghorydd Peter Baldwin

    Parciau Cenedlaethol UK

    Cadeirydd yr Awdurdod (neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd) – Y Canon Aled Edwards (neu’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn absenoldeb y Cadeirydd)

    Parciau Cenedlaethol Cymru

    Cadeirydd yr Awdurdod (Yr Is-gadeirydd yn bresennol am ddau gyfarfod) – Y Canon Aled Edwards

    Gr?p Cynllunio Strategol Rhanbarthol y De-ddwyrain

    Mr Julian Stedman

    Gr?p Cynllunio Strategol Rhanbarthol y De-orllewin

    Canon Aled Edwards (Cadeirydd)

    Fforwm Aelodau’r Datganiad Technegol Rhanbarthol

    Mr Julian Stedman

    Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    Y CynghoryddGareth Ratcliffe

    Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

    Y Cynghorydd Liam Cowles

     

    Gofynnodd y Swyddog Monitro i’r aelodau gysylltu ag ef os oedd ganddynt unrhyw ymholiadau am unrhyw wrthdaro o ran buddiannau wrth fod yn aelodau o’r cyrff allanol hyn.

     

    70/21

    Unrhyw Fater Arall

    Unrhywfusnes arall y mae'r Cadeirydd yn ei ystyried yn ddigon brys ac wedi bod hysbyswyd iddo ymlaen llaw.

    Dogfennau ychwanegol:

    • Gweddarllediad ar gyfer 70/21

    Cofnodion:

    Nid oedd unrhyw fater arall.